Cross Party Group Clean Air Act for Wales

 

Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i Gymru

13:00 – 14:00

09.06.2022

Teams

Yn bresennol:

 

Aelodau o’r Senedd

Huw Irranca-Davies AS

 

David Rees AS

Hefin David AS (yn cael ei gynrychioli gan Alexander Still)

 

Rhai nad ydynt yn Aelodau o’r Senedd

Daisy Noott

Joseph Carter

Oliver John

Gwenda Owen

Neil Lewis

Ruth Billingham

Paul Lewis

Mark Wolstencroft

Haf Elgar

Huw Brunt

 

Jason Bale

Paul Lewis

Y Cynghorydd Caro Wild

Y Cynghorydd Dan De'Ath

David Thornley

Graeme Robson

Charlotte Morgan

 

 

Agenda:

 

1.       Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd:Croeso, cyflwyniadau, ac ymddiheuriadau.

Chair, Huw Irranca-Davies MS: Welcome, introductions and apologies.

 

2.       Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd:Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Chair, Huw Irranca-Davies MS: Minutes of the last meeting

 

3.       Mark Wolstencroft, Cyngor Birmingham – Parthau Aer GlânMark Wolstencroft, Birmingham Council – Clean Air Zones

 

4.       Joseph Carter, Awyr Iach Cymru: Materion yn codi

Joseph Carter, Healthy Air Cymru:Matters arising

 

5.       Unrhyw fater arall / Any other business


 

 

 

 

 

 

 

1.     Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd: Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau.Dim ymddiheuriadau ffurfiol

 

2.     Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd: Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Bydd cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu cadarnhau drwy ohebiaeth e-bost

 

3.     Cyflwyniad gan Mark Wolstencroft, Cyngor Birmingham – Parthau Aer Glân

 

        Mark yw Rheolwr Gweithrediadau Diogelu'r Amgylchedd yng Nghyngor Dinas Birmingham ac mae'n goruchwylio’r gwaith o Fonitro a Gwerthuso'r Parth Aer Glân (CAZ)

 

        Creodd Cyngor Dinas Birmingham amryw o ffeithluniau’n ymwneud ag effaith ansawdd aer gwael ar iechyd y cyhoedd. Mae'r rhain wedi bod yn bwysig o ran esbonio'r rhesymeg dros y Parth Aer Glân i'r cyhoedd.

 

        Yn 2011 lansiodd Birmingham ail gynllun gweithredu ansawdd aer. Y cam gweithredu cyntaf oedd edrych ar astudiaeth dichonoldeb technegol ar barth allyriadau isel.

 

        Ffurfiodd gweithgor traws-awdurdod Raglen Trefi a Dinasoedd Allyriadau Isel, gan ddod ag arbenigwyr ar ansawdd aer ynghyd i gyfuno arbenigedd. Defnyddiwyd cyllid grant Defra i lansio'r grŵp hwn a darparu pecynnau gwaith.

 

        Cyhoeddwyd adroddiad ar asesiad o barth allyriadau isel yng Nghanol Dinas Birmingham yn 2014/15, ac yn 2015/16 dechreuodd y llywodraeth ymgysylltu â Chyngor Dinas Birmingham i drafod treial o Barth Aer Glân.

 

        Yn 2019 cyflwynwyd achos busnes a chafwyd cymeradwyaeth

        Gohiriwyd y lansiad tan fis Mehefin 2021 oherwydd y pandemig.

 

        Mae cynlluniau tebyg naill ai ar waith neu’n cael eu datblygu ledled y DU ac er bod y Parth Aer Glân yn un model, mae amrywiadau eraill y mae Awdurdodau Lleol eraill yn ymchwilio iddynt.

 

        Mae Parth Aer Glân Birmingham ychydig y tu mewn i ffordd gylchol y ddinas ac mae'n barth math D, sy'n cwmpasu pob cerbyd.

 

        Mae llawer o ffyrdd prifwythiennol mawr yn arwain i'r ddinas sydd wedi arwain at y problemau o ran ansawdd yr aer.

 

        Y tâl dyddiol ar gyfer ceir a cherbydau nwyddau trwm yw £8, a £50 i coetsys a bysiau, ac mae'r tâl yn berthnasol 24 awr y dydd.

 

        I ddechrau, roedd cyfnod gorfodi meddal o 2 wythnos i gefnogi'r newid - anfonwyd llythyrau hysbysu allan, ond ni roddwyd unrhyw daliadau cosb.

 

        Nid yw cyfartaledd dyddiol y cerbydau unigryw sy'n mynd i mewn i'r parth wedi gostwng yn sylweddol iawn, er y bu gostyngiad - mae amryw o ddigwyddiadau wedi effeithio ar hyn, fel canllawiau gweithio gartref a chyfyngiadau Covid-19

 

        Mwy o gerbydau sy'n cydymffurfio

        Mae llif y traffig ar yr A38 a’r ffordd gylchol wedi gostwng

 

        Roedd pryder y byddai'r Parth Aer Glân yn symud traffig o'r canol i'r ffordd gylchol - nid yw hyn wedi ddigwydd, sy'n gadarnhaol

 

         Mae'r holl ddata hwn ar gael i'r cyhoedd ei weld ar y wefan -  Clean Air Zone data |BrumBreathes

 

        Pwysleisiodd Mark bwysigrwydd gwaith monitro a gwerthuso parhaus, yn enwedig ar gyfer parthau mwy.


 

 

 

 

 

        Mae adroddiad sylfaenol sy'n casglu data o'r cyfnod cyn y Parth Aer Glân wedi'i gyhoeddi, yn ogystal ag adroddiad interim a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn cwmpasu 6 mis cyntaf y Parth, ac adroddiad ar ei 12 mis cyntaf a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

 

        Mae busnesau a dinasyddion wedi cael cefnogaeth gan becyn grantiau gwerth cyfanswm o £35m, sy'n cynnig 3 chynllun gwahanol:

 

1)       Credydau Teithio a Chynllun Sgrapio gwerth £10m (ar gael i rai sy'n gweithio yn y Parth Aer Glân ac sy’n ennill llai na £30,000 y flwyddyn – yn gyfnewid am gael gwared ar gerbyd nad yw'n cydymffurfio, gall unigolion gael £2000 tuag at gerbyd sy'n cydymffurfio neu gael credydau teithio.

 

Dewisodd tua 25 y cant o ymgeiswyr gredyd teithio)

 

2)      Cynllun Uwchraddio a Newid gwerth £10m (Ar agor i Fusnesau Bach a Chanolig sydd â Cherbydau Nwyddau Trwm a choetsys, sy’n gymwys ar gyfer grant o rhwng £15,000 a £150,000. Bydd hwn yn cael ei ehangu i Gerbydau Nwyddau Mawr cyn bo hir)

 

3)      Cynllun Uwchraddio a Newid gwerth £15m (Ar agor i gerbydau hacni a drwyddedwyd ym Mirmingham a gyrwyr llogi preifat. Darparwyd gwerth £3 miliwn mewn grantiau hyd yma)

 

        Lansiwyd Strategaeth Aer Glân ar gyfer dinas Birmingham ym mis Chwefror 2022. Ochr yn ochr â hyn lansiwyd rhaglen monitro ansawdd aer mewn ysgolion.

 

 

Holi ac ateb a thrafodaeth

 

Huw Irranca-Davies AS – bydd y data rhyngweithiol ar y wefan yn cynyddu hyder y cyhoedd yn y cynllun

 

David Rees AS – cododd gwestiwn am y traffyrdd y tu allan i ganol y ddinas a’r Parth Aer Glân, gan feddwl am effaith yr M4 ar Gasnewydd. A oes unrhyw asesiadau o ansawdd yr aer yn yr ardaloedd hynny? Ymatebodd Mark gan ddweud bod y ffyrdd prifwythiennol yn broblem fwy ac y canolbwyntiwyd yn bennaf ar ganol y ddinas gan mai dyna lle mae'r broblem a nodwyd. Wrth symud ymlaen bydd mwy o edrych ar yr ardaloedd cyfagos gan fod y Parth Aer Glân ar waith.

 

Huw Brunt – gofynnodd am y canlyniadau iechyd cyhoeddus a sut mae'r rhain yn cael eu gwerthuso a’u monitro. Ymatebodd Mark drwy ddweud fod data sy'n gysylltiedig ag iechyd yn sail i’r astudiaeth aer glân. Maen nhw'n gweithio gyda Phrifysgol Birmingham ac yn rhan o grŵp a elwir yn West Midlands Air. Maen nhw wedi sicrhau £5 miliwn drwy Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i wneud gwaith yn ymwneud ag ansawdd aer a gweithrediadau ymarferol sy'n gysylltiedig ag iechyd.

 

Joseph Carter - tynnodd sylw at yr elfen dopograffig a sut y byddai hyn yn effeithio ar wasgaru aer, yn enwedig yn gysylltiedig â'r M4, lle mae rhywfaint ohoni ar lefel uwch ond gall y bryniau cyfagos effeithio arno.

 

Haf Elgar – gofynnodd a gafodd unrhyw fesurau eu cyflwyno ochr yn ochr â lansiad y Parth Aer Glân i fynd i'r afael âgwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ac ystyriaethau anghydraddoldeb. Dywedodd Mark eu bod wedi bod yn ymgysylltu â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft National Express, i uwchraddio fflydoedd. Maen nhw hefyd yn gweithio ar ddatblygu'r llinell metro drwy'r canol.

 

David Thornley – sut mae'r dull codi tâl yn gweithio? Eglurodd Mark fod gwiriwr cerbydau ar-lein. Os byddwch yn mynd i mewn gyda cherbyd nad yw'n cydymffurfio, gallwch dalu'r tâl chwe diwrnod cyn diwrnod eich ymweliad, ar ddiwrnod eich ymweliad, neu chwe diwrnod ar ôl diwrnod eich ymweliad. Os na fyddwch yn talu byddwch yn cael tâl cosb.

 

 

 

 

 

 

 

Y Cynghorydd Caro Wild – canmolodd y dull clir o gyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch Parth Aer Glân Birmingham. Pan ofynnwyd a yw Cyngor Dinas Birmingham wedi meddwl am ddyddiad gorffen tymor hir i'r cynllun,  eglurodd Mark eu bod yn gweithio gyda Defra, sydd wedi llunio cynllun datgomisiynu ffurfiol, sy'n nodi nifer o gamau y mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol fynd drwyddyn nhw. Mae angen nifer o flynyddoedd o gydymffurfiaeth wedi'i gadarnhau.

 

Y Cynghorydd Caro Wild – a yw deunydd gronynnol yn cael ei godi mewn set ddata? Na, dim ond NO2 maen nhw'n ei gofnodi. y llywodraeth ganolog sy’n gyfrifol am y ddyletswydd i gydymffurfio. Fodd bynnag, mae Birmingham yn ceisio cynyddu ei dealltwriaeth o PM2.5.

 

Huw Irranca-Davies AS - cododd y gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft y canllawiau Gweithio Gartref gan Lywodraeth Cymru o gymharu â Llywodraeth y DU. Byddwn yn aros i weld a yw hon yn duedd mwy hirdymor a fydd yn effeithio ar arferion teithio.

 

 

4.  Joseph Carter, Awyr Iach Cymru: Materion yn codi

 

-          Ar 31 Mai lansiwyd Parthau Allyriadau Isel (LEZs) yn Aberdeen, Dundee, Caeredin a Glasgow.

 

-          Bydd y rhain yn fodel gwahanol iawn i fodel Birmingham, gan fod unrhyw un sydd â cherbyd sy'n torri'r terfynau mewn perygl o gael dirwy.

 

-          Bydd cyfnod gras hir i'r cynllun hwn - ni fydd Glasgow yn cyhoeddi dirwyon am 1 flwyddyn na'r dinasoedd eraill am 2 flynedd.

-          Gallwch ddysgu mwy am gynllun yr Alban yn https://www.lowemissionzones.scot/

 

-          Rhoddodd ddiweddariad o'r cyfarfod diwethaf hefyd. Ysgrifennodd y dirprwy Weinidog yn ffurfiol at y gwrthbleidiau i ofyn am eu barn ar y Bil, ond dim ond 1 allan o 3 plaid oedd wedi ymateb.

 

-          Bydd Awyr Iach Cymru yn cynnal digwyddiad galw heibio yn y Senedd ddydd Mawrth 14 Mehefin rhwng 09.00 a 13.30 i ddathlu Diwrnod Aer Glân